Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/8

Gwirwyd y dudalen hon

Seren Tan Gwmwl

GAN fod cymaint trwst yn y byd ar yr amser yma ynghylch brenhinoedd, byddinoedd, a rhyfeloedd ac amryw o bethau eraill ag sydd yn ddychrynadwy i feddyliau pobl ag sydd am fyw mewn undeb a brawdgarwch â'u gilydd, meddyliais mai cymwys a fyddai dweud gair wrth fy nghydwladwyr yn yr achos pwysfawr yma, rhag ofn iddynt gael eu galw i arfau i ladd eu cydgreaduriaid, heb wybod am ba achos mae'n rhaid iddynt wneuthur y fath orchwyl gwaedlyd a chigyddlyd.

Rhyfedd fel yr oedd yr hen Israeliaid yn eu dallineb yn gweiddi am Frenin, a'r Arglwydd, trwy enau Samuel, yn mynegi iddynt ddull Brenin a deyrnasai arnynt, sef:

A Samuel a fynegodd holl eiriau'r Arglwydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio Brenin ganddo. Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y Brenin a deyrnasa arnoch chwi: efe a gymer eich meibion, ac a'u gesyd iddo yn ei gerbydau ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: ac a'u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel a pheiriannau ei gerbydau; a'ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau; ac efe a gymer eich meysydd a'ch gwinllannoedd a'ch olew-lannoedd gorau, ac a'u dyry i'w weision. Eich hadau hefyd, a'ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a'u dyry i'w ystafellyddion, ac i'w weision; eich gweision hefyd,