Hrothgar. Rhoddai yntau dorchau aur a thrysorau lawer yn haelfrydig i'w ryfelwyr.
Mewn cors afiach nepell i ffwrdd trigai anghenfil o'r enw Grendel. Nis gwelid byth yn y dydd, ond yn y nos deuai allan o'i ffau i grwydro'n llechwraidd dros y rhosydd unig a thrwy'r corsydd llaith. Yr oedd y creadur hwn yn ofnadwy i edrych arno, ac nid oedd cleddyf yn bod yn ddigon miniog i dorri trwy ei groen tywyll, corniog. Clywodd Grendel o'r gors y canu a'r chwerthin yn y neuadd, ac ysgyrnygodd ei ddanedd mawr. Un hwyr, wedi tawelu o'r sŵn, aeth i mewn yn lladradaidd i'r adeilad a gwelodd yno lawer o filwyr yn cysgu'n drwm. Cydiodd ei freichiau mawr yn sydyn mewn deg ar hugain ohonynt, gwasgodd hwy i farwolaeth a dug hwynt ymaith i'w bwyta yn eu ffau. Bore trannoeth, yr oedd yr holl wlad mewn galar a gofid. Eisteddai'r hen frenin Hrothgar yn drist yn y neuadd fawr; eisteddai heb yngan gair, gan syllu ar ôl y gwaed a oedd hyd y llawr.
Y nos wedyn, daeth Grendel eto i'r neuadd a dug ymaith eraill o filwyr Hrothgar. Y oedd y milwr cryfaf fel plentyn bach yn ei ddwylo, a daeth ofn ar bawb trwy'r holl wlad. Ni fentrai neb allan yn y nos, ac ni chysgai enaid byw yn y neuadd fawr. Lawer bore, gwelent mewn dychryn ôl traed yr anghenfil a fu'n crwydro'r nos i chwilio am ysglyfaeth. Aberthodd y brenin Hrothgar i'r duwiau, ond am ddeuddeng mlynedd daliai Grendel i ladd a dychryn. Gwag a