ganhwyllbrennau arian deuai golau disglair tuag ataf, a cheisias gamu i mewn i gyfeiriad yr allor. Ond ni fedrwn; daliai rhywbeth fi'n ôl fel na allwn roi un troed o flaen y llall.
"Felly trois yn ôl yn drist, ac wedi rhoi fy helm a'm cleddyf heibio, gorweddais i gysgu o dan y groes. Rhwng cwsg ac effro gwelais ddau farch gwyn yn mynd heibio gan dynnu elor ag arno farchog yn wael. Safasant wrth y groes, a chlywais y marchog yn gweiddi'n drist, 'O Dduw, pa bryd y caf iachâd? Pa bryd y gwelaf Saint Greal?' Yn sydyn nofiodd y canhwyllbrennau allan o'r eglwys ac aros o flaen y groes faen. Ac ar fwrdd o arian llachar yr oedd Saint Greal. Ymlusgodd y marchog oddi ar yr elor, a nesaodd ar ei liniau a'i ddwylo at y bwrdd. Cyffyrddodd a chusanodd Saint Greal, a gwelais y gŵr gwanllyd ac afiach yn codi'n gryf a holliach. Diflannodd y canhwyllbrennau a'r bwrdd arian yn ôl trwy ddrws y capel, a cheisiais innau godi a'u dilyn. Ni fedrwn symud. Cymerodd y marchog dieithr fy march a'm harfau, a chlywais lais fel pe o'r awyr yn dywedyd, 'Lawnslot, cyfod a dos ymaith o'r lle santaidd hwn.'
"Yn siomedig dilynais lwybr a arweiniai i hen fynachlog. Yno gweddïai mynach, a syrthiais iannau ar fy ngliniau wrth ei ochr. Cysgais yn y fynachlog y nos honno, a bore trannoeth cefais farch ac arfau gan yr abad. Crwydrais wedyn drwy goedwig fawr nes dyfod i lan y môr. Yno yr oedd llong brydferth yn f'aros, ac