Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

Nghaer Carbonec ac yma y mae Saint Greal. Dychwel yn awr i lys Arthur, oherwydd ni weli byth eto mo'r llestr santaidd.'"

"Felly, dyma fi," ebe Lawnslot wrth Galâth, "ac ufuddhâf i orchymyn y brenin Peles."

Wedi i'r ddau gofleidio'i gilydd, cychwynnodd Galâth eto ar ei hynt, a chyn hir cyfarfu â Pheredur a Bwrt. Ar ôl llawer o anturiau daethant hwythau hefyd i Gaer Carbonec, ond nid oedd y lle mwyach yn wag a thawel. Yr oedd tyrfa o farchogion yno, a chafodd y tri groeso mawr gan y brenin Peles. Pan oeddynt ar swper yn y neuadd cludodd pedair o rianedd teg wely i mewn, ac arno gorweddai gŵr gwael â choron aur am ei ben.

"Galâth, Farchog, croeso iti!" meddai mewn llais gwanllyd. "Yn hir ac mewn blinder y bûm yn dy aros. Rhyddhâ fi'n awr o'm hafiechyd a'm poen."

Ymddangosodd pedwar angel yn dwyn bwrdd arian, ac arno yr oedd Saint Greal dan orchudd. Agorodd y drws ym mhen draw'r neuadd, y drws y curasai Lawnslot arno, a thrwyddo cerddodd angylion eraill, rhai yn dwyn canhwyllau, un yn dal gwaywffon â gwaed yn diferu o'i blaen i flwch arian, ac un arall â lliain yn ei llaw. Rhoddwyd y canhwyllau ar y bwrdd, y lliain yn gwrlid dros Saint Greal, a'r waywffon yn unionsyth yng nghanol y llestr. Yna uwch y llestr ymddangosodd gŵr tebyg i Grist, a chymerth Saint Greal yn ei ddwylo creithiog. Penliniodd o flaen Galâth, a dywedyd,