ei nerth un dydd trwy lusgo'r gof mwyaf, Wieland, gerfydd ei wallt ar draws yr efail. Gwylltiodd Mimer, ond yr oedd arno yntau hefyd ofn y llanc.
"Mimer," meddai Siegfried, wedi darganfod ei nerth ei hun, "y mae'n bryd imi gael cleddyf."
"Cydia'n y morthwyl yma, ynteu," ebe Mimer, a thynnodd ddarn o haearn fflamgoch o'r tân a'i roi ar yr eingion.
Gafaelodd llaw Siegfried ym morthwyl trymaf yr efail, a thrawodd yr haearn ag ergyd a ysgwydai'r lle. Drylliwyd yr haearn yn chwilfriw, a suddodd yr eingion droedfedd i'r ddaear.
Yr oedd cymaint o ofn y bachgen ar Fimer wedi hyn nes penderfynu ohono ddyfeisio cynllun i'w ladd.
"Siegfried," meddai, un dydd, "rhaid imi gael tân mwy yn y ffwrn i wneud cleddyf iti. Dos i'r goedwig at y torrwr mawn a dwg faich mawr yn ôl yma.'
A phastwn cryf yn ei law, cychwynnodd Siegfried yn llawen, a daeth cyn hir i berfeddion y goedwig dywyll. Yno ni chanai aderyn, ac o'i flaen gwelai gors afiach yn llawn o nadroedd gwenwynig a llyfaint hyll. Ffiaidd ganddo oedd eu chwithrwd llechwraidd a'u crawcian aflafar, a brysiodd i dŷ'r torrwr mawn gan ofyn am dân i losgi'r creaduriaid hyn.
"Druan ohonot, Siegfried!" meddai'r torrwr mawn. "Bu Mimer yma o'th flaen, a chynhyrfodd y ddraig yn y goedwig i ymosod arnat pan ddychweli tua'r efail. Gwell iti gymryd ffordd arall yn ôl."