y wledd am saith niwrnod, a chlywid sŵn telyn a chân drwy bob neuadd. Yna cychwynnodd Siegfried allan i ennill clod ac anrhydedd.
Croesodd y môr mewn ystorm enbyd i Wlad yr Iâ, a chyrhaeddodd gastell y frenhines enwog, Brunhild. Yr oedd y frenhines hon yn nodedig am ei nerth; yn wir, dywedid ei bod yn gryfach na deg o filwyr ei llys gyda'i gilydd. Yr oedd gwisg ryfel amdani bob amser a chleddyf mawr wrth ei hochr, ond yr oedd, er hynny, yn neilltuol o brydferth. Deuai marchogion o bob gwlad i geisio'i hennill yn wraig, ond yr unig ffordd i wneuthur hynny oedd trwy gael y gorau arni mewn gorchestion rhyfel.
Cafodd Siegfried groeso yn llys Brunhild, a thrannoeth cyfarfu marchogion lawer ar y maes, amryw ohonynt yn barod i herio'r frenhines er mwyn ceisio'i hennill. Dangosodd Siegfried ei nerth trwy gydio mewn carreg enfawr a'i thaflu ar draws y maes. Synnodd pawb wrth weld mor gryf ydoedd, a chredent fod y gwron a orchfygai Brunhild wedi ymddangos o'r diwedd.
"Na," meddai Siegfried, "ni cheisiaf orchfygu Brunhild. Y mae hi'n brydferth, yn gref ac yn urddasol, ond rhaid i'r ferch a garaf i fod yn dyner ac yn wylaidd."
Oddi yno crwydrodd trwy leoedd anial a pheryglus, gan ymladd â chewri a lladron ar ei ffordd. Cyrhaeddodd Wlad y Nibelung, Tir y Niwl, ac yno yr oedd y