Hagen fel cyfaill erioed, ac yn awr dywedodd gyfrinach fawr Siegfried wrtho.
"Nid oes ond un man gwan ar ei gorff," meddai "ac y mae arnaf ofn yn fy nghalon rhag i ryw bicell neu saeth gyrraedd y man hwnnw."
"Ym mh'le y mae'r man hwnnw?" gofynnodd Hagen, gan geisio cuddio'i chwilfrydedd twyllodrus. Edrychodd Kriemhild yn graff arno cyn ateb. "Rhwng ei ddwy ysgwydd," meddai o'r diwedd. "Yno y syrthiodd y ddeilen pan ymolchodd yng ngwaed y ddraig.”
"Gwn beth a wnawn i'w amddiffyn," ebe Hagen. "Ar ei wisg uwchben y lle gwan gwnïa di groes fach ag edau goch. Gwyliaf innau Siegfried bob cyfle, a cheidw fy nharian bob picell rhag y man hwnnw."
Bore trannoeth, cychwynnodd Gunther a'i farchogion i hela anifeiliaid gwylltion yn y goedwig. Er i Kriemhild, a freuddwydiodd y noson gynt fod peryglon yn ei aros, geisio'i gymell i beidio, aeth Siegfried gyda hwy. Gadawodd y lleill yn y goedwig a rhuthrodd ar ôl llwynog ffyrnig. Lladdodd hwnnw a lladdodd lew mawr, ŷch gwyllt, baedd a charw. Yna o'r pellter daeth galwad glir y cyrn, a throes Siegfried yn ôl tua'r gwersyll ar ffin y goedwig. Ar y ffordd gwelodd arth yn dianc i ddryswch y mangoed. Neidiodd oddi ar ei farch a dilynodd yr arth ar flaenau'i draed. Gwasgodd yr anifail â'i freichiau cryfion, llusgodd ef at ei geffyl a'i rwymo wrth y cyfryw. Yna carlamodd i'r gwersyll,