Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/146

Gwirwyd y dudalen hon

cymerodd gleddyf a gwaywffon a bwa Siegfried oddi wrtho, ac yna cydiodd mewn picell finiog. Hyrddiodd hi i gefn yr arwr fel y gŵyrai i yfed o'r afonig, a rhuthrodd ymaith am ei fywyd.

Ger bwrlwm swynol yr afonig gorweddai Siegfried yn wan a thrist. Âi ei ruddiau'n wynnach, wynnach, fel y rhuddai'r blodau â llif ei waed. Ar darian fawr o aur cludwyd ei gorff yn ôl i Worms, a gadawyd ef wrth ddrws Kriemhild gyda'r nos. Trannoeth, yr oedd galar yn holl heolydd y ddinas, ond nid oedd dagrau fel dagrau Kriemhild na hiraeth fel ei hiraeth hi.