Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

Storïau Mawr y Byd

"ILIAD" HOMER

PE gofynnai rhywun i chwi enwi rhai o feirdd mawr y byd, am bwy, tybed, y meddyliech?.........Ie, am feirdd Saesneg fel Shakespeare a Milton neu (a chwarae teg i chwi am fod yn falch o lenorion eich gwlad eich hun) am feirdd Cymraeg fel T. Gwynn Jones a R. Williams Parry. Pe bai raid i mi ateb y cwestiwn, credaf mai enw Homer a ddeuai gyntaf i'm meddwl—Homer, yr hynaf o'r beirdd i gyd, ac un o'r rhai mwyaf a welodd ac a wêl y byd. Am dair mil o flynyddoedd daliodd ei gerddi i swyno'r oesau. Newidiodd y byd: erys hud a chyfaredd y bardd.

Yn agos i dair mil o flynyddoedd yn ôl y canodd Homer ddwy stori hir mewn barddoniaeth. Trwy'r gyntaf, yr Iliad, clywir rhuthr milwyr, trwst arfau a charlam meirch, ond yn y llall, yr Odyssey, gwrandawn ar grwth y gwynt a suon y môr, a gwelwn y wawr yn torri ar ynysoedd y palmwydd.

Stori am ddinas o'r enw Ilium neu, yn Gymraeg, Caer Droea, a geir yn yr Iliad, dinas yn sefyll ar lan yr Helespont, erbyn hyn y Dardanelles. A fedrwch chwi dynnu darlun yn eich meddwl ohoni hi, dinas yn y dwyrain debyg i'r rhai hynny y sonnir amdanynt yn