ryfel a'r arfau a wnaed gan Fwlcan ar ei gyfer. Syllai'r Groegiaid mewn syndod ar yr arfau, a gafaelodd Achiles ynddynt, â'i lygaid yn melltennu tân. Ni roddwyd i neb erioed arfau fel y rhai hyn. Toddasai Fwlcan aur ac arian a phrês a thun mewn tân ac ugain o feginau'n chwythu arno. Yr oedd y darian anferth yn bum trwch, dwy o brês, dwy o dun, ac un o aur. Arni fe dynnodd y gof enwog lun y ddaear a'r môr, yr haul a'r lloer a sêr y nefoedd. Yr oedd hefyd lun priodas mewn dinas heddychlon, pobl yn cario ffaglau llachar a gwŷr ieuainc yn dawnsio i sŵn telynau a phibau. Arni hefyd yr oedd llun hen wŷr doeth mewn llys barn, llun tref gaerog a'r milwyr yn cerdded allan i ymladd, llun dôl ffrwythlon a'r aradrwyr yn gyrru eu ceffylau drosti gan adael rhychau tywyll o'u hôl, llun maes o yd a'r medelwyr yn ei dorri, llun gwinllannoedd hyfryd, a llun gwartheg ger afon a dau lew gwyllt yn rhuthro arnynt. Dyna i chwi rai o'r lluniau a gerfiwyd mewn aur ar wyneb y darian. Rhoes Achiles y wisg amdano, a gafaelodd ei law yn y darian fawr.
Wedi i'r Groegiaid gael ysbaid i fwyta a gorffwys, arweiniodd Achiles hwy i'r frwydr â'i wisg ryfeddol yn disgleirio fel y fflachia coelcerth yn y nos. Un floedd anferth, gair i'r ceffylau chwim, aflonydd, ac i ffwrdd ag ef yn ei gerbyd rhyfel i wynebu'r gelynion. Dywaid Homer fod ei gleddyf yn eu mysg fel tân yn difa ochr mynydd. Ciliasant mewn dychryn o'i flaen gan ruthro at yr afon, amryw ohonynt yn eu taflu eu