ohono'n goch. Safasant uwchben y cawr, ac â'u holl nerth gwthiodd Odyseus a'i wŷr y blaen chwilboeth i mewn i'w lygad gan ei droi a'i droi yn ei ben. Rhuodd sgrechiadau Polyffemus fel taranau trwy'r ogof gan ddeffro adlais ar ôl adlais yn y creigiau a'r bryniau, a ffoes y Groegiaid mewn arswyd i bellterau tywyll yr ogof. Brysiodd y cewri oedd yn byw ar y bryniau cyfagos i holi Polyffemus beth oedd yn bod arno.
"Pam yr wyt ti'n ein deffro ni ganol nos â sŵn mor ofnadwy? A oes rhywun yn dwyn dy ddefaid a'th eifr neu yn ceisio dy ladd di?"
"Neb sydd yn fy lladd i," gwaeddodd y cawr. "Neb sydd yn fy lladd i."
Aeth y cewri eraill i ffwrdd yn ddig gan droi clust fyddar i'w gri, a gwenodd Odyseus wrth weld ei ystryw'n llwyddo cystal.
Gan ocheneidio a chrio, ymbalfalodd y cawr i enau'r ogof. Symudodd y graig o'r neilltu, ac eisteddodd i lawr yn y drws gan ddal ei freichiau allan rhag ofn i'r Groegiaid ddianc. Yna meddyliodd Odyseus am gynllun arall. A brigau helyg clymodd yr hyrddod gyda'i gilydd fesul tri, ac o dan yr hwrdd canol bob tro rhwymodd un o'i gyfeillion. Pan ddaeth y wawr, dechreuodd y geifr a'r hyrddod grwydro at y drws, ac wrth eu gollwng allan tynnodd Polyffemus ei law hyd gefn pob un rhag ofn bod y Groegiaid yn marchogaeth arnynt. Yn olaf oll, yn hongian o dan hwrdd mawr