Beniamin, adref gyda'u tad, oherwydd yr oedd yr hen ŵr yn hoff iawn ohonynt.
Nid oedd Ioseff a'i frodyr hynaf yn gyfeillion mawr. Bechgyn gwyllt ac anhydrin oeddynt hwy, a deuai Iacob i wybod yn aml am eu castiau trwy i Ioseff achwyn arnynt. Gwelent hefyd y sylw a'r ffafrau a gâi ef gan y tad. Un dydd daeth marchnadwyr o'r Aifft heibio i'w cartref, a phrynodd Iacob ganddynt liain drud, amryliw. Cymerodd y deunydd i wneuthur gwisg hardd i Ioseff, mantell ag iddi ddwy lawes hir a llydain, ac ar bob ymyl frodiad o liwiau cain. Edrychai'r caethweision â'r cymdogion arno mewn syndod, ond ei felltithio a wnâi'r brodyr. Crysau o liain cartref bras oedd ganddynt hwy.
Aethai pethau o ddrwg i waeth wedi i Ioseff ddechrau adrodd ei freuddwydion wrthynt.
"Cefais freuddwyd rhyfedd neithiwr," meddai un hwyr ger y tân. "Yr oeddym i gyd mewn cae ŷd yn rhwymo ysgubau. Safai fy ysgub i yn y canol yn syth i fyny a'ch rhai chwithau o amgylch yn ymgrymu iddi."
Dywedodd wrthynt hefyd am freuddwyd arall pan welsai'r haul a'r lloer ac un seren ar ddeg yn ymgrymu iddo ef.
A'i wisg brydferth amdano a ffon fugail dderw yn ei law, cyrhaeddodd Ioseff, wedi tri diwrnod o gerdded blin, y bryniau hyn i chwilio am ei frodyr. Bu raid iddo gerdded am ddiwrnod arall cyn dod o hyd iddynt, oherwydd symudasent i'r gogledd i rosydd ffrwythlon