Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

yn arwain i gyntedd y llys. Yma yr oedd lluniau amryliw ar fur a cholofn, ond ni chafodd amser i sylwi arnynt, dim ond brysio ymlaen heibio i dyrrau o wŷr mewn dillad heirdd yn sgwrsio'n bryderus â'i gilydd. Aeth y siwrnai'n fwy o freuddwyd fyth i'r llanc o fugail pan groesodd drothwy neuadd anferth a cherdded rhwng dwy reng o filwyr tal, pob un â gwaywffon hir yn ei law dde, at risiau o farmor gwyn. Uwch y grisiau hyn eisteddai Pharo ar ei orsedd, a gwisgai goron o aur am ei ben. O'i amgylch safai tywysogion, arglwyddi, offeiriaid, dewiniaid a milwyr y llys, a chodai peraroglau fel niwl o lawer thuser.

Penliniodd Ioseff o flaen yr orsedd, a syllodd Pharo ar ei gorff lluniaidd. Yn ddirmygus yr edrychodd yr offeiriaid a'r dewiniaid arno, gan sylwi ar olion y cadwynau ar ei goesau noeth.

"Cyfod," meddai Pharo. "Breuddwydiais freuddwyd, a chlywais y gelli di ddehongli breuddwydion."

Taflodd y brenin gilwg at yr offeiriaid a'r dewiniaid wrth ychwanegu, "Methodd holl ddoethion fy llys."

"Nid myfi," atebodd Ioseff, "ond Duw a rydd ateb i Pharo."

"Gwrando! Yn fy mreuddwyd safwn ar fin afon, ac ohoni daeth saith o wartheg tewion, braf, gan droi i'r weirglodd i bori. Ar eu holau esgynnodd saith o wartheg teneuon, truenus a hyll yr olwg. Llyncodd y rhai teneuon y saith arall, ond nid oeddynt fymryn tewach wedyn. Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd