i gyd wedi ei rychu, a gyrrwyd yr anifeiliaid blinedig yn ôl i'w cell dan y ddaear.
A gwg ar ei wyneb, rhoes Aetes helm yn llawn o ddannedd dreigiau gwenwynig i Iason, a cherddodd yntau ar hyd pob rhych gan hau'r had rhyfedd ynddynt. O'r ddaear gyffrous cododd rhengau o filwyr arfog, pob un â helm ar ei ben a gwaywffon hir yn ei law. Na, nid byddin o wŷr llonydd a diymadferth mohonynt, ond tyrfa ffyrnig yn dyheu am waed. Gan ddilyn cyngor Medea, safodd Iason o'r neilltu heb na chleddyf na gwaywffon yn ei law, a chydiodd mewn carreg fawr. Taflodd hi i ganol y milwyr, a thrawodd ddau ohonynt i'r llawr. Yna neidiodd y ddau hynny ar eu traed gan ruthro ar ei gilydd, ac yn fuan yr oedd y maes i gyd yn ferw o wŷr yn ymladd. Â'i bwys ar ei waywffon, gwyliai Iason y brwydro ffyrnig, a chyn llithro o'r haul i'r môr, nid oedd un o'r rhyfelwyr yn fyw. Fel y syrthient i'r llawr, llyncai'r ddaear hwy, a thyfai glaswellt a blodau yn eu lle.
Brysiodd Iason at y brenin Aetes i hawlio'r Cnu Aur.
"Cawn siarad am hynny yfory," meddai'r brenin yn sarrug, a throes ymaith gyda'i filwyr i'r llys.
Wrth y llong eisteddodd Iason a'i gymrodyr gan ddyfalu pa gynllun a gaent i dwyllo'r ddraig. Daeth Medea atynt yn ddirgel ac ofnus.
"Y mae fy nhad yn cynnull ei wŷr," meddai, "a phen bore yfory rhuthra'i fyddin arnoch a'ch lladd. Y mae hefyd am fy lladd i, oherwydd gŵyr mai trwof