Coch Hergest yn Rhydychen. Pe digwydd i chwi fynd i Aberystwyth am eich gwyliau haf, ewch am dro i'r llyfrgell fawr ar y bryn a cheisiwch olwg ar yr hen lawysgrif a gadwodd inni hyd heddiw, ymysg chwedlau eraill, yr hanes tlws am Franwen Ferch Llŷr.
Yn Harlech ar graig uwch y môr, eisteddai Brân, brenin Prydain, un dydd, ac o'i amgylch yr oedd arglwyddi a milwyr ei lys. Ymhell allan yn y môr gwelent dair llong ar ddeg yn hwylio'n gyflym tuag atynt a'r gwynt yn gryf o'u hôl.
"Mi a welaf longau acw," meddai'r brenin, "ac yn dyfod yn hŷ tua'r tir. Erchwch i wŷr fy llys wisgo'u harfau a mynd i holi eu neges."
Brysiodd y gwŷr i lawr at y môr, a gwelsant fod y llongau'n neilltuol o hardd a'u baneri teg o bali yn chwarae yn yr awel. Ar y llong gyntaf cododd milwr darian â'i blaen at i fyny fel arwydd o heddwch. Yna daeth negeswyr mewn badau at y lan, gan gyfarch gwell i'r brenin, a safai ar graig-uchel uwch eu pennau.
"Duw a roddo dda i chwi," atebodd yntau, "a chroeso i chwi. Pwy biau'r llongau hyn, a phwy sydd ben arnynt?"
"Arglwydd," meddent, "Matholwch, brenin Iwerddon, biau'r llongau, ac y mae ef ei hun yma."
"Beth yw ei neges?" gofynnodd Brân.
"Myn briodi dy chwaer, Branwen, a rhwymo Iwerddon wrth Ynys y Cedyrn, fel y byddont gadarnach."