Gwahoddwyd Matholwch i'r tir, a rhwng y ddau lu yr oedd milwyr lawer yn Harlech y nos honno. Trannoeth, mewn cyngor, penderfynwyd rhoddi Branwen yn wraig i Fatholwch, a chynhaliwyd y wledd briodasol yn Aberffraw, yn Sir Fôn, ymhen rhai dyddiau. Yno eisteddasant i wledda ac ymddiddan mewn pebyll anferth, oherwydd nid oedd un tŷ yn ddigon mawr i gynnwys Brân. A phriodwyd Matholwch a Branwen y nos honno.
Trannoeth, pwy a ddaeth i Aberffraw ar ei dro ond gŵr cas, annifyr, o'r enw Efnisien, hanner brawd i'r brenin. Wedi iddo daro ar lety meirch Matholwch gofynnodd i'r gweision pwy bioedd y meirch.
"Matholwch, brenin Iwerddon," atebasant hwythau.
"Beth a wnânt hwy yma?" gofynnodd Efnisien.
"Y mae Matholwch ei hun yma, ac ef a briododd Franwen, dy chwaer."
"Priodi Branwen fy chwaer!" gwaeddodd Efnisien. "A heb fy nghennad i! Ni allent hwy roi mwy o ddirmyg arnaf."
Yn wyllt, aeth at y meirch a thorri eu gweflau wrth eu dannedd, a'u clustiau wrth eu pennau a'u cynffonnau wrth eu cefn. Torrodd eu hamrannau hefyd wrth yr asgwrn, nes gwneuthur ohono'r meirch i gyd yn ddiwerth.
Pan glywodd Matholwch am gyflwr y meirch, galwodd ei wŷr at ei gilydd yn ddig, ac aethant i lawr i'w llongau, gan feddwl troi'n ôl i Iwerddon. Brysiodd