Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

Y Derwyddon oedd proffwydi a doethion yr hen oes yn Iwerddon ac yng Nghymru.

"Bydd y bachgen," meddai, "a wisg arfau am y tro cyntaf heddiw yn tyfu yn arwr mwyaf Iwerddon."

Disgleiriai llygaid y bechgyn oherwydd yr oeddynt oll, ond Cuchulain, mewn oed i ddwyn arfau.

"Ond," ychwanegodd y Derwydd, "bydd yr arwr hwnnw yn marw yn ieuanc, yn ieuanc iawn."

Aeth Cuchulain yn syth at y brenin Conor, ac er nad oedd ond saith mlwydd oed, gofynnodd iddo am wisg o ddur, am gledd a phicell a cherbyd rhyfel.

"Yr wyt yn rhy ieuanc o lawer," oedd ateb y brenin. "Pwy a roes y syniad yn dy ben?"

"Cathbad, y Derwydd," meddai Cuchulain.

Synnodd Conor wrth glywed hyn, ond yr oedd yn rhaid hyd yn oed i frenin yn yr oes honno wrando ar lais y Derwyddon. Felly aeth gyda'r bachgen i neuadd yr arfau. Cymerodd darian fawr oddi ar y mur, a dewisodd gleddyf a dwy waywffon gref. Mewn llawenydd, brysiodd Cuchulain allan i brofi nerth yr arfau; chwifiodd y cleddyf a'r gwaywffyn a gyrrodd eu blaenau i mewn i'r ddaear galed. Torrodd hwy i gyd. yn ddarnau mân, ac aeth yn ei ôl at y brenin i erfyn am rai eraill. Plygodd a thorrodd y rhai hynny hefyd, ac o'r diwedd nid oedd ond arfau'r brenin ei hun a ddaliai ei nerth. Yr un un fu ei hanes yn dewis cerbyd rhyfel. Neidiodd i amryw ohonynt gan yrru'r ceffylau'n wyllt, ond sigo a thorri a wnâi pob cerbyd. Galwodd y brenin