"Fferdia," meddai Cuchulain, "er mwyn yr hen amser pan wynebem bob math o beryglon gyda'n gilydd, gâd inni beidio ag ymladd."
"Cuchulain, fy nghyfaill hoff, y mae'n rhaid imi frwydro â thi. Rhoddais fy llw i'r frenhines yr awn allan yn dy erbyn. Os gwrthodaf, bydd holl feirdd y llys yn canu cerddi digrif amdanaf a phawb yn chwerthin am fy mhen. Gwell gennyf farw wrth ymladd â chyfaill na bod yn destun gwawd y beirdd."
Brwydrasant drwy'r dydd gerllaw afon ar ffin Ulster, a phan aeth yr haul i lawr rhoesant gusan i'w gilydd. Y nos honno gyrrodd Fferdia hanner ei fwyd i Guchulain, a gyrrodd Cuchulain hanner ei lysiau meddygol gwerthfawr i Fferdia. Rhoddwyd eu ceffylau hefyd ochr yn ochr yn yr un ystabl, a chysgodd eu dau was wrth yr un tân.
Yn fore drannoeth neidiodd y ddau i'r cerbydau rhyfel gan daflu picell ar ôl picell at ei gilydd. Trwy'r dydd hir gwrandawai'r fyddin gerllaw ar sŵn yr ymladd wrth yr afon, a phan ddaeth cysgodion y nos cusanodd y ddau arwr ei gilydd yn llawen. Rhoddwyd eu ceffylau eto yn yr un ystabl, a chysgodd eu dau was wrth yr un tân.
Y trydydd dydd, â chleddyfau y brwydrasant, a chyn i'r haul syrthio dros y mynyddoedd i'r môr yr oedd clwyfau'n brathu eu cyrff drostynt oll. Yn drist. y gadawsant ei gilydd, gan wybod y syrthiai un ohonynt yn y frwydr drannoeth. Y nos honno ni