Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/96

Gwirwyd y dudalen hon

creigiau, a phan ddaeth Ahmad a'i filwyr drwy'r drws haearn, cymerodd arni fod yn marw o newyn. Cariodd Ahmad hi i mewn i blas y Tylwyth Teg, ac yno daeth y ddewines o hyd i'r holl hanes.

"Y ffordd orau i'w boeni," meddai wrth y Swtlan, pan ddychwelodd i'r llys, "yw gofyn iddo wneud pethau amhosibl."

Pan ddaeth Ahmad at ei dad y tro wedyn, dywedodd y Swltan wrtho,

"Ahmad, clywais dy hanes i gyd. Pan ei di'n ôl at dy frenhines yr wyf am iti ofyn am gymwynas ganddi. Hoffwn gael pabell sy'n ddigon bach i law dyn ei chuddio ond yn ddigon mawr, pan agorir hi allan, i gynnwys fy holl fyddin a'r ceffylau a'r camelod."

Nid arhosodd Ahmad yn hir yn y llys y tro hwn, ond aeth yn ôl yn drist i blas y Tylwyth Teg. Gwelodd Peri-Banu y prudd-der yn ei wyneb, a phan ddywedodd wrthi am ddymuniad y Swltan ysgydwodd ei phen.

"Yr hen wrach a ddygaist ti yma i'w hymgeleddu a aeth â'r hanes i'r llys, ac y mae cynllwynion drwg ym meddwl y Swltan."

Dychwelodd Ahmad i'r llys ymhen dau ddiwrnod â phabell fechan wedi ei chuddio yn ei law. Pan agorwyd hi allan ar y maes yr oedd yn fwy na digon i gynnwys holl fyddin y Swltan.

Brathai eiddigedd fron y Swltan, ac wedi siarad â'r ddewines gofynnodd am ffafr arall.