Gwirwyd y dudalen hon
12. Dysgasant drin y tir, a chodi ŷd; gwneud dillad o ddefnyddiau heblaw crwyn, a gwneud llwyau a dysglau pren.
13. Dysgodd rhai ohonynt bysgota â rhwyd ac â bach. Aent mewn cwch wedi ei wneud fel basged, a chrwyn drosto i gadw'r dŵr allan.
14. Corwgl yw enw'r cwch hwn. Un bach ysgafn iawn ydyw. Gwelir rhai tebyg iddo heddiw ar Afon Tywi ac ar Afon Teifi.
15. Yn fwy na dim, dysgasant wneud tai, nid tai fel ein tai ni, ond cabanau. Coed a chlai oedd y mur, a gwellt neu frwyn oedd y to.
16. Pan ddaeth pobl i ddysgu'r pethau hyn—dofi anifeiliaid, trin y tir, pysgota, a gwneud llestri—filoedd