Gwirwyd y dudalen hon
o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd bywyd Cymru fod yn fywyd gwahanol i fywyd pobl eraill.
17. Plant pobl yr ogof a phobl y caban ydyw'n cenedl ni heddiw—rhai'n bobl fach ddu, rhai'n bobl dal olau, rhai'n bobl dal ddu, a rhai'n bobl walltgoch.
18. Iaith y bobl hyn hefyd yw'n hiaith ni. Er hynny, nid oedd eu Cymraeg hwy yn debyg iawn i'n Cymraeg ni heddiw.
19. Nid oedd eisiau llawer o eiriau arnynt hwy, am na wyddent ond am ychydig o bethau. Byd bach oedd eu byd hwy.
20. Y mae'r iaith, fel y bobl, wedi datblygu o oes i oes. Ac y maent yn datblygu o hyd.