Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/121

Gwirwyd y dudalen hon

22.
Henry Richard.
Apostol Heddwch.

1. Rhwng y bryniau yng ngogledd Sir Aberteifi y mae hen dref fach dawel, dlos. Tregaron yw ei henw.

2. Y mae Tregaron erbyn hyn yn enwog. Oddi yno aeth un dyn mawr allan i'r byd i wneud ei waith.

3. Mewn man amlwg yn y dref y mae heddiw gof-golofn iddo. Y dyn mawr hwnnw oedd Henry Richard.

4. Ganed ef yn 1812. Yr oedd felly'n byw'r un amser â Ieuan Gwynedd, Hiraethog a Hugh Owen. Yn 1888 y bu farw.

5. Mab i weinidog oedd. Daeth yntau'n weinidog ei hun ar eglwys yn