Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

llawer o waith. Bu llawer llai o ryfel yn y byd.

15. Bu Henry Richard yn gweithio gyda'r peth hwn tra bu fyw. Bu'r Cymro o Dregaron yn nhrefi mwyaf Ewrop, yn siarad â mawrion pob gwlad, er mwyn eu cael i sefyll yn erbyn rhyfel.

16. "Apostol Heddwch" y gelwid ef. Aeth dylanwad da'r Cymro hwn dros y byd.

17. Nid yw rhyfel wedi peidio â bod eto, ond y mae gwaith Henry Richard yn dwyn ffrwyth.

18. Yn 1928, bu Cynhadledd Heddwch arall ym Mharis. Yno addawodd pymtheg o wledydd mwyaf y byd beidio â mynd i ryfel. Y mae sŵn eraill yn dyfod i'w dilyn.