Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/139

Gwirwyd y dudalen hon

5. Y mae mwy o ddarllen wedi bod ar waith Ceiriog nag a fu ar waith un bardd arall yng Nghymru hyd yn hyn.

6. Paham hynny? Y mae Ceiriog wedi canu'n syml nes bod pawb yn deall ei waith. Y mae teimlad calon Cymro ym mhob un o'i gerddi.

7. Ganed ef yn 1832. John Hughes oedd ei enw. Cymerodd ei enw barddol oddi wrth yr afon a rêd drwy ei hen ardal—Glyn Ceiriog.

8. Pan oedd yn ieuanc iawn aeth i Fanceinion yn glerc yng ngorsaf y ffordd haearn. Yr oedd hiraeth mawr arno yno.

9. Lle llawn o sŵn oedd yr orsaf ym Manceinion. Yr oedd Ceiriog yn meddwl o hyd am ardal dawel ei febyd,