Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/140

Gwirwyd y dudalen hon

lle'r oedd y grug a'r eithin yn eu blodau, a dim i'w glywed ond si'r nant a chân yr adar.

10. Dyma'r pryd y canodd ei gân fach dlos i "Nant y Mynydd." Dyma hi:

11. Nant y mynydd, groyw, loyw,
Yn ymdroelli tua'r pant,
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,—
O na bawn i fel y nant!

12.Grug y mynydd yn eu blodau,—
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.

13.Adar mân y mynydd uchel
Godant yn yr awel iach,
O'r naill drum i'r llall yn hedeg—
O na bawn fel deryn bach!