Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/145

Gwirwyd y dudalen hon

wledydd y byd. Am amser hir iawn ni chafwyd yma nofelydd.

6. Bu llawer yn ceisio ysgrifennu storïau yn ystod y ganrif ddiwethaf. Un yn unig a ddaeth yn fawr yn y cyfeiriad hwn. Daniel Owen oedd hwnnw.

7. Ganed ef yn yr Wyddgrug yn 1836. Bu ei dad farw pan nad oedd Daniel ond baban.

8. Yr oedd ganddo fam dda a diwyd. Gwnaeth hi ei gorau dros ei bachgen.

9. Cafodd fynd i'r ysgol ac i Goleg y Bala, er mwyn bod yn bregethwr. Gwael iawn oedd ei iechyd ar hyd ei oes.

10. Ar ôl bod yn y Bala am dair blynedd gorfu iddo adael y Coleg am nad oedd yn iach.