Gwirwyd y dudalen hon
i'r plant a geid yn y dydd, ac yn yr hwyr deuai'r bobl mewn oed ar ôl gorffen eu gwaith.
18. Yn 1760, yr oedd 215 o ysgolion Griffith Jones yng Nghymru, a miloedd o ysgolheigion, o'r chwe blwydd oed i'r deg a thrigain.
19. Yr oedd Griffith Jones yn bregethwr heb ei ail yn ei ddydd. Gallasai fod wedi ennill safle dda iddo'i hun yn yr eglwys.
20. Gwell na hynny, yn ei olwg ef, oedd gweithio'n galed er mwyn dysgu ei gyd-genedl. Hyn oedd diben ei fywyd.
21. Cafodd roddion o lyfrau ac arian i'w helpu. Gwelwyd gwerth ei waith pan oedd yn fyw. Cofir amdano fel un o gymwynaswyr ei wlad.