Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/83

Gwirwyd y dudalen hon

Sul, pan na allent wneud hynny yn yr wythnos.

10. Felly sefydlodd yr Ysgol Sul.

11. Ar y cyntaf dysgid pobl a phlant i ddarllen ac ysgrifennu yn hon. Ar ôl hynny, dysgu darllen y Beibl a'i astudio oedd ei gwaith hi.

12. Rhodd fawr Charles o'r Bala i Gymru oedd yr Ysgol Sul. Yn fuan iawn yr oedd un gan bob capel ac eglwys trwy'r wlad.

13. Gydag amser daeth ysgolion eraill i wneud gwaith yr hen ysgolion bob dydd, ond y mae'r Ysgol Sul yn aros o hyd.

14. Y mae Ysgol Sul Cymru'n wahanol i Ysgol Sul Lloegr. Un i blant yn unig, ac i blant y tlodion yn bennaf, yw Ysgol Sul Lloegr.