Gwirwyd y dudalen hon
17.
Williams Pantycelyn.
Y Perganiedydd.
1. O'r holl ddynion mawr a fu byw yng Nghymru erioed ni wnaeth neb fwy o les i'w oes ac i'r oesau ar ei ôl na William Williams Pantycelyn.
2. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1717, mewn ffermdy yn agos i Lanymddyfri. Yr oedd hyn fwy na chan mlynedd ar ôl amser y Ficer Pritchard.
3. Wedi iddo dyfu'n llanc aeth i'r ysgol i ddysgu bod yn ddoctor. Un bore Sul, clywodd Hywel Harris yn pregethu. Ni bu byth yr un fath wedi clywed y bregeth honno.
4. Nid oedd am fynd yn ddoctor mwy. Gwelodd yn sydyn fod iddo