y mat o flaen y tân yn y parlwr gan nad pwy a fyddai yn bresenol. Edrychid ar Sultan gyda pharch gan lawer o bregethwyr arferent fyn'd i dy Mrs. Roberts, ac yr oedd yntau yn adnabod holl weinidogion y Methodistiaid yn Lerpwl, ac yn hynod o gyfeillgar efo Mr. Henry Rees. Pan elai Sultan efo un o'r teulu i lawr y dref, os digwyddent gyfarfod Mr. Rees, rhoddai Sultan ei drwyn oer yn ei law, a dwedai gŵr Duw, "Wel, Sultan, bach, sut yr wyt tithau heddyw? Os bu ennid erioed gan gi yn nghylch abred, yr ydw i'n meddwl yn siwr mae gynot ti bu o;" ac edrychai Sultan gyda'i lygaid mawr yn llygaid disglaer y gweinidug, cystal a dweyd, "Thank you, Mr. Rees."
Ond un o gyfeillion penaf y teulu caredig yn Queen's Road, oedd Mr. E. P—, un o flaenoriaid y capel yr oeddynt yn aelodau ynddo. Byddai Mr. P— yn ymweled â hwy ddwy waith neu dair bob wythnos, ac yr oedd Sultan ac yntau yn eithaf ffryndiau. Un noswaith, aeth Mr. P— yno, ac yr oedd Sultan yn gorwedd yn llabwst mawr ar y mat fel arfer, ac yn haner cau ei lygaid, ac yr oedd yr holl deulu gartref. Ond yr oedd gan Mr. P— y noson hono ffon yn ei law, peth na welwyd ganddo