Pan oeddwn yn ieuanc, gwnaeth Wil Williams lawer o niwed i mi, a minau iddo yntau yn ddiau. Yr oedd genym ran ymhob drwg a direidi, er ein bod ein dau wedi ein dysgu bethau amgenach. Gosododd Wil ei fryd ar fyn'd yn sowldiwr, a cheisiai ei oreu i fy mherswadio inau i listio, ac yr oeddwn braidd yn tueddu at hyny. Yr oedd fy nhad dipyn yn sydyn a chrabed ei ddull, a minau, hwyrach, heb fod yn un o'r rhai mwyaf diwyd efo ngwaith, a dwedodd un diwrnod, mewn tipyn o dymer, nad oeddwn yn werth fy halen. Brifodd y gair fi yn fawr, ac atebais,—"Hwyrach hyny, ond yr wyf am listio." "Eitha gwaith i ti, mi wnei yn burion i dy saethu," ebe nhad, a brifodd fwy arnaf. Mi eis at Wil y noson hono, a mi ddeudes wrtho yr awn gydag ef i Gaer i listio. Yr oedd Wil yn falch iawn clywed hyny, a phenderfynasom gychwyn bore dranoeth. Wedi i fy nhad fyn'd i'w wely, dwedais wrth fy mam am fy mwriad. Ni chredai fi nes i mi gymryd fy llw mai dyna oedd fy mwriad. Crefodd arnaf ei goreu glas i roi y meddwl heibio. Ond yr oeddwn yn benderfynol o fyn'd yn sowldiwr. Codais yn fore dranoeth, ond yr oedd fy mam ar ei thraed o mlaen i, a chrefodd arnaf drachefn a
Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/127
Prawfddarllenwyd y dudalen hon