gwlan oen bach. I mi gyfadde fy ngwendid i ti, yr oeddwn yn meddwl cryn dipyn o ngwallt, achos 'doeddwn i 'rioed wedi gweld ei debyg. Hyny fu, ac ni feddyliais mwy am y plismon. Mi grwydres awr arall hyd y dre nes oeddwn wedi blino, a mi drois i dy tafarn i orffwys tipyn. 'Doedd neb yn meddwl dim at hyny yr adeg hono. Mi wranta y mod i wedi bod yn y dafarn chwarter awr mewn ystafell ar fy mhen fy hun yn bwrw'r amser heibio, pryd y daeth i fewn ddyn tua'r un oed a fi, ac mor debyg i mi nes y dychrynais wrth edrych arno. Yr oedd ei wallt yn ddu a chrych fel fy un inau, a'i wyneb yr un ffunud a fy wyneb inau, ac nid oedd fawr o wahaniaeth yn lliw ei ddillad. Oni bai fy mod yn gwybod fod hyny yn amhosibl, mi faswn yn tyngu mai fi fy hun oedd y dyn. Gwelwn ei fod yntau wedi ei daro gan y tebygrwydd, ond ni dd'wedodd air. Cerddodd yn ol a blaen hyd yr ystafell am funyd, yna safodd ac edrychodd drwy y ffenest i'r heol; ac heb alw am ddim i'w yfed llithrodd allan yn ddistaw drwy ddrws oedd yn ymddangos i mi fel y drws cefn i'r tŷ. Yn mhen dau funyd dyma y plismon a welswn o'r blaen i'r ystafell, ac ebe fe,—
Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/145
Prawfddarllenwyd y dudalen hon