ymaith yn amser henaint a phenllwydni, a wn i ddim ddaru mi beidio awgrymu wrtho nad oedd hyny ddim yn honourable. P'run bynag mi deimlais yn well wedi deyd fel yna wrtho; a mi adawais y cwbl iddo, ond cystal a deyd wrtho hefyd y byddai i mi ei watchio sut y gwnai o â fi. Yr oedd eto dipyn o amser tan adeg y seiat, a mi feddyliais y treiwn i ddarllen tipyn i aros yr amser. Mi estynais oddiar y shilff hen gyfrol o'r DRYSORFA, a mae Duw yn gwybod fy mod yn deyd y gwir, yn y lle yr agorodd y llyfr yr oedd y receipt! Mi waeddais dros bob man—receipt! receipt! receipt! a dyna'r plant at y drws gan feddwl fy mod wedi dyrysu yn fy synwyrau, a fuasai hyny ddim yn rhyfedd, a doeddwn i ddim yn cofio y mod i wedi cloi y drws, ac yr oeddwn yn dal waeddi receipt! Wedi i mi dawelu ac agor y drws mi aethon ar ein gliniau.—Dyma'r receipt Mr. E—, ac yr ydach chi yn eitha cyfarwydd â llaw Owen Jones," ac eisteddodd Thomas Williams i lawr, a rhaid i mi ddyweyd nad oedd prin wyneb sych yn y lle.
"W—w—wel, Mr. Williams," ebe Mr. E—" mae llawer o bethau da wedi bod yn y DRYSORFA, er mai fi, y Golygydd, sydd yn