Tudalen:Straeon y pentan.pdf/118

Gwirwyd y dudalen hon

inau fyn'd â'r arian i'r Llwybr Main y noson hono. Mynai y nhad i mi fyn'd ar gefn ceffyl, ond o herwydd fy mod yn awyddus i gael aros am rai dyddiau yn y Llwybr Main, dewisais gerdded yno. Yr oedd wedi dechre tw'llu cyn i mi gychwyn, ac i dori cwt y ffordd eis dros y mynydd. Nid oeddwn wedi gadael cartre haner awr pryd y dechreuodd fwrw eira yn enbyd. Cerddais a cherddais, ac i dori'r stori yn fer, collais y ffordd. Yr oedd yr eira, yr hwn oedd yn dod i lawr yn dameidia mawr, wedi gwneud pob man yn ddieithr i mi, a cherddais am oriau heb wybod i ble yr oeddwn yn myn'd, ac yr oedd y dieithrwch, y distawrwydd, a'r ffaith fod gen i ddeugain punt yn fy mhoced wedi fy ngwneud reit nerfos. Ond yr oeddwn wedi gofalu rhoi rifolfar llwythog yn mhoced frest y nghôt, rhag lladron. Nis gwn am ba hyd y bum yn cerdded, ond yr oeddwn wedi blino yn enbyd, achos mi wyddost fod cerdded milldir mewn eira yn fwy trafferthus na cherdded tair ar dir sych. Gwyddwn ei bod yn myn'd yn hwyr, ac ofnwn y byddai raid i mi orwedd yn yr eira gan mor flinedig oeddwn, pryd y gwelwn oleu fel goleu canwyll drwy ffenest, a chyfeiriais tuag ato. Wedi i mi ddyfod at y goleu,