Teifi oddiwrth gymoedd uchaf Claerwen a Thowi, a'u hafnau mynyddig mwynion. Ar y dde gwelir llethrau'r Mynydd Bach, a'i ffermdai clyd ar y godrau a'r llechweddau, a'i hanes yn ddiddorol o'r amser y cerddai llengoedd Rhufain ei Sarn Helen hyd ddyddiau yr athrawon a'r beirdd a'r efengylwyr roddodd fri ar ei bentrefydd,—Lledrod, Bronnant, Blaen Pennal, Penuwch, a Llangeitho.
Ond rhwng y mynyddoedd hyn gorwedd y gors farw, oer. Ar ei gwastadedd hi ni thyf blodau gweirglodd a gwndwn Cymru. Yn ei mynwes leidiog ddu cyll aberoedd Cymru, eu dwndwr mwyn a'u purdeb grisialaidd; yn lle ymuno âg afon fordwyol neu gyrraedd môr heulog, collir golwg arnynt yn y gors hagr,—Marchnant a Glasffrwd a Fflur a Chamddwr a'u chwiorydd llawen. Nid oes ffordd yn ei thramwy; craffwch o'r tren, ac ni welwch lwybr ar ei thraws o Ystrad Meurig i Dregaron. Nid yw'n llyn ac nid yw'n ddôl; ond y mae'n llenwi lle fuasai'n llyn tlws neu'n ddôl brydferth, ac y mae wedi cyfuno ynddi ei hun bopeth sy'n anhardd mewn dŵr a thir, a dim sydd hardd. Y mae hen ffyrdd dynion fel pe'n gochel, ac y mae'r ffordd haearn yn myned heibio iddi gan ei hosgoi.
I'm meddwl i, cyfunai bopeth wna aeaf a mynydd-dir yn anghysurus,—tir gwlyb didramwy, pyllau oerion lleidiog, ambell goeden ddi-ffurf yn dihoeni, diffyg blodau a diffyg bywyd. Ai cryndod drwy'm enawd wrth ei gweled, fel pe bawn yn edrych ar Lyn Cysgod Angeu. Ond ni fedrwn beidio edrych arni wrth fynd heibio. Er fy ngwaethaf ni allwn dynnu fy llygaid oddi arni, yr oeddwn fel pe tan ei swyn oer. Wedi cyrraedd