Tregaron, teimlwn fel pe bawn wedi cael fy nhraed ar dir sych, yn oer a gwlyb, wedi bod yn ymrwyfo am oriau drwy laid. Ac ym mreu- ddwydion y nos cawn fy hun yn graddol suddo i'w mwd lleidiog du.
Ceisiais lawer gwaith ymryddhau oddi wrth yr atgasedd ati. Sefydlwn fy ngolwg ar ei theisi mawn. Ceisiwn ddychmygu am aelwydydd y ffermdai oddi amgylch yn y gaeaf, a'u tân mawn glân, siriol, a'u dedwyddwch yn dod o garedigrwydd y gors. Ond ofer oedd fy ymdrech. Llithrai fy meddwl yn ôl er fy ngwaethaf at laid sugndyn- nol ac ymlusgiaid ffiaidd ac anobaith bywyd.
Pan ddangosodd haf eleni ogoniant newydd i mi mewn golygfeydd ystyriwn yn berffaith o'r blaen, a phan ddangosodd berffeithrwydd lle y tybiwn i fod amherffeithderau gynt, trodd fy meddwl at Gors goch glan Teifi. Tybed ai yr un oedd hi o hyd wedi wythnosau o sychter haf? A orweddai'n drom, wleb, farw, gan wrthod adlewyrchu dim o olud lliwiau a bywyd yr haul? Penderfynais fynd heibio iddi, rhag fod iddi hithau ei blodau. Unwaith newidiodd blodeuyn wedd gwlad i mi. Hwnnw oedd blodyn melyn dant y llew; gwnaeth amgylchoedd Glasgow, lle lleddir blodau eraill gan fwg y gweithfeydd, yn hyfryd â'i wên siriol.
Fel arfer, daethum hyd ddyffryn gwyrdd hyfryd Ystwyth. Yr oedd y gwres yn llethol, oherwydd mis Gorffennaf oedd hi. Yr oedd gwair ysgafn yn sychu'n grin bron newydd ddisgyn oddi wrth y bladur, yr oedd pawb yn dianc i'r cysgod rhag y gwres. Oddi ar ael y bryn, lle dringai'r trên dan goed hyfryd eu cysgod, gwelem danbeidrwydd yr haul ar y dolydd