yn gorwedd yna." Pan af finnau heibio i Gors goch glan Teifi eto, ni theimlaf fy ngwaed yn oeri. Gwn fod yno'n huno filoedd ar filoedd o blu'r gweunydd, ac y deffroant pan ddaw pob haf, ac y bydd y gors yn llety mwyn a chynnes i angylion.(—Yn y Wlad)
Taith ar draed yn Llydaw
DYWEDIR fod dwy ffordd o deithio yn Llydaw—ar draed, i weled llawer; neu gyda'r tren, i weled dim. Yn lle teithio gyda'r tren araf dros wastadedd Plouagat a Guengamp a Threglamus, lle na welsem ond meysydd o wenith a meillion a llin, penderfynasom gerdded tua'r gorllewin gyda glan y môr.
Ni chymerasom ond cipolwg ar heolydd budron St. Brieuc esgobol cyn cychwyn tua'r wlad. Cawsom well syniad am y bobl mewn hanner awr nag a gawsem yn y tren mewn wythnos. Gwelem y bobl gyda'u gorchwylion,—cylch o ferched yn golchi dillad o amgylch pwll; geneth ieuanc yn gyrru trol hir i'r farchnad, a wyneb tlws iach, a chap gwyn Llydewig; gŵr a gwraig yn golchi llin eu tyddyn bychan yn yr afon, llin wneid yn lliain cartref pan ddoi nosweithiau hirion y gaeaf; hen offeiriad tew, darlun o erlidiwr, yn gwgu arnom ac yn chwipio'i geffyl i lawr y goriwaered wrth ein pasio.
Sylwem fod tai da ymhobman, wedi eu hadeiladu'n gryfion a chysurus. Gallesid meddwl fod Llydaw ymhell ar y blaen i Gymru wrth edrych ar dai ffermydd