tragwyddoldeb, trwy aml i lecyn swynol,— lle llenwir yr enaid â sŵn y môr tragwyddol, ac â breuddwydion am ddringo bryniau uchaf uchel— gais byd,—a thrwy aml i gilfach dywyll,—lle'r eisteddir, nid i orffwys, ond i chwarae â cholyn ingol amheuon ac anobaith, i wylo uwch dinistr yr hyn fu ac ansicrwydd yr hyn a ddaw.(—Tro yn yr Eidal.)
Hen Gapel Llwyd
DARARLLENAIS erthygl awgrymiadol ar y "Celfyddydau Breiniol," fel y gwelodd rhywun yn dda alw'r Celfau Cain; ac y mae wedi llenwi cymaint o'm meddwl, fel y mae arnaf ofn y rhydd wawr breuddwyd ar fy llythyr y tro hwn. Dengys yr erthygl nad ydym ni Gymry wedi rhagori mewn unrhyw gelf gain oddieithr barddoniaeth a cherddoriaeth, ac nid rhyw lawer yn y rhain, ychwaith; mai y rheswm am hyn ydyw y wedd Biwritanaidd roddodd y Diwygiad ar ein dull o feddwl a sylwi; ac y dylem o hyn allan weled ym mhrydferthwch natur gysgod y brydferthwch santeiddrwydd. "Pell iawn ar ôl," fel y dywedwn yn y Seiat, yr oeddwn i'n teimlo fy hun yn wyneb yr erthygl.
Fel yr wyf yn sylwi mwy ar ddylanwad crefydd. a'r celfau cain ar ei gilydd wrth ddarllen Hanes, ac wrth wylio buchedd pobl yr ardaloedd. Pabyddol sydd o amgylch Geneva, yr wyf yn gorfod credu'n wannach, wannach mai'r addoliad tlysaf ydyw'r addoliad cryfaf a gorau: Bûm