ohonynt geffylau, a phrynant gyfrwyau a bwâu a saethau."
Ond, oherwydd yr egni digymar oedd mor nodweddiadol ohono yn nechrau ei deyrnasiad, medrodd Harri'r Pedwerydd ddod i Gymru cyn bod cynlluniau Owen yn barod,—cyn i'r Albanwyr na'r Gwyddelod ddod, cyn cymryd y cestyll, a chyn disgyblu'r Cymry i sefyll brwydr. Daeth y brenin ym mis Medi, ac aeth drwodd i ynys Môn. Trôdd y brodyr llwydion o Lan Faes,—lle gorweddai Elin, gwraig Llywelyn, ond gorfod iddo fynd adre cyn ystormydd y gaeaf heb weled cipolwg ar Owain Glyn Dŵr. Hwyrach mai'r adeg hon y collodd ei ganlynwyr eu golwg ar Owain hefyd, pan ar ffo rhag Harri, ac y gofynnodd Iolo Goch,—
Y gŵr hir, ni'th gâr Harri,
Adfyd aeth, a wyd fyw di?
Yr oedd yn amlwg fod gwrthryfel Owain wedi disgyn yng Nghymru fel gwreichionen ar ddail crin. Yr oedd y llafurwyr yn enwedig yn barod i'w ddilyn, canys trwm iawn fuasai iau arglwyddi'r gororau, a thrahaus iawn oedd bywyd castellwyr yn hen Gymru Llywelyn. Llais Cymru i gyd oedd gwahoddiad Iolo Goch,—
A gwayw o dân,
Dyred, dangos dy hunan;
Dyga ran dy garennydd,
Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd.
Erbyn Gwanwyn 1401 y mae Owain Glyn Dŵr wedi dod yn ôl. Tra'r oedd Percy'n ceisio cadw ofn y cestyll ar Ogledd Cymru, trôdd Owain i'r Dê. Ym Mai clywai'r brenin fod holl Ddeheubarth yn dylifo ato, a'i fod yn ymgynghreirio â