Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/36

Gwirwyd y dudalen hon

thywysogion y wlad honno i ymosod ar Loegr, ac i ddifa'r iaith Saesneg oddi ar wyneb y ddaear. Oddi yno trôdd yn ôl i Bowys, lle y ceisiodd feddiant o'r Trallwm, a Dyffryn Hafren. Cyn diwedd yr haf yr oedd yn teyrnasu fel tywysog ar Wynedd, Powys, Ceredigion, a Deheubarth; ac yr oedd Cymry'r gororau, yn enwedig Gwent a Morgannwg, yn hiraethu am ei ddyfodiad.

Yn yr Hydref daeth y brenin a byddin fawr i ganolbarth Cymru; a difrododd bopeth ar ei ffordd gan adael gweddill y cleddyf a'r tân i newyn, ac heb arbed gwraig na phlentyn. Gwnaeth fynachlog Ystrad Ffur yn ystabl i'w geffylau; ac oddi yno casglodd fil o blant y wlad, ebe'r hanes, i'w dwyn yn gaeth i Loegr. Ni feiddiai Owain sefyll brwydr, ond gwibiai o gwmpas byddin y brenin, ac ymgynddeiriogodd hwnnw nes gwneud i uchelwyr a gwerinwyr Ceredigion ddioddef creulonderau erchyll. Ond ni fedrodd y brenin wneud dim i Owain ei hun; a chydag iddo droi ei gefn, yr oedd Owain a'i fyddin yn gwarchae Castell Caernarfon. Y mae'n wir na chafodd feddiant o'r castell yn y mis Tachwedd hwnnw, ond yr oedd, erbyn hyn, yn arwr cenedlaethol, a'i faner,—draig euraid ar liw gwyn, yn faner yr edrychai pob Cymro gyda llygaid deisyfgar am dani, o Lanandras i Dyddewi, ac o Gaergybi i Gaerdydd. Yr oedd gallu brenin Lloegr yn gwanhau hefyd, yr oedd murmur yn erbyn y trethi, yr oedd anffyddlondeb yng nghalonnau'r barwniaid.

Yr oedd Dafydd ap Iefan Goch ac eraill yn gwibio rhwng Owain a thywysogion yr Iwerddon a'r Alban, ac yr oedd sôn bod Owain a rhai o'r barwniaid Seisnig mwyaf nerthol yn deall ei