Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/32

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN

BUNYAN .

wedi eu cymeryd o le addoli, a'u caethiwo yn y fath gelloedd gyda'r drwg-weithredwyr gwaethaf, fel ag y bu pan oedd Bunyan yn garcharor yma.

Priodol iawn y galwai y pererin druan y fan yn rhyw fau.?” Treiddiodd llygaid Howard i'r ffau yma, ac fe'i dymchwelwyd at ei sylfaeni. Wrth symud y llawr, cafwyd hyd i fodrwy aur gyda llythyrenau cyntaf enw Bunyan – J. B.-yn gerfiedig arni. Aeth y fodrwy hon i ddwylaw curad Elstow , yn awr Deon Manchester ; hwn sydd yn ei gwerthfawrogi yn fawr, ac y mae yn cael eu gwisgo ganddo fel cofeb o'r annghydffurfiwr hybarch.

Llusgwyd y gŵr santaidd, diniwed, a defnyddiol hwn o freichiau ei wraig serchog, yr hon a fu yn agos a chael ei hangeu trwy yr anesmwythder poenus a deimlai rhag y byddai iddo gael ei ladd. Ymddifadwyd ef " gyfeillach ei blant, ac o gymundeb a'r diadellau bychain o Gristionogion y byddai yn arfer gweinidogaethu iddynt, a thaflwyd ef i garchar, lle y cadwyd ef am uwchlaw deuddeng mlynedd yn mlodau ei fywyd. Yr ydys wedi tybio gyda llawer o reswm fod ei garchariad wedi ei guddio trwy ystod erledigaeth chwerw yr amser hwn, a thrwy hyny fod yn foddion i achub ei fywyd, ond nid yw hyn yn lleihau euogrwydd ei erlidwyr yn y grâdd lleiaf. “ Diau cynddaredd dyn a'th folianna di, gweddill cynddaredd a waherddi.” Yn y carchardy prudd aidd hwn cafodd seibiant, ac yn y Frau hono, gyda'i enaid yn llawn o dangnefedd ysbrydol, cafodd orphwysdra dawel, gan ddysgwyl wrth ewyllys ei Dad nefol.

Cymerwyd Bunyan i fynu yn mis Tachwedd, 1660, trwy warrant oddiwrth ynad o'r enw Wingate, pan yr oedd yn pregethu yn Samsel, gan fod yr ynad, fel y dywedai, “ wedi penderfynu tòri gwddf уy fath gyfarfodydd.” Yr oedd y warrant yn datgan “ Ei fod yn myned oddiamgylch i amryw gyfarfodydd yn y sir, er gwarth mawr ar lywodraeth Eglwys Loegr," &c. Darlunia Bunyan un o'r pleidiau oedd a llaw fawr yn ei garchariad, un Dr. Lindale, fel “ hen elyn i'r gwirionedd,” yr hwn pan glywodd fod yr eurych wedi ei ddal, a ddaeth i mewn gan ei watwar ef âg amryw o ymadroddion difenwol. Ond yr oedd Bunyan yn llawn ddigon o wr i'w gyfarfod, yn gystal mewn synwyr parod, â rheswm ysgrythyrol. Gan gyfeirio at ei alwedigaeth, dywedodd Dr. Lindale, “ fod yn gofus ganddo ddarllen am un Alexander, gof-copr, yr hwn a wnaeth ddrygau lawer i'r Apostolion ;” atebodd Bunyan “ iddo yntau ddarllen am yr offeiriaid a'r Phariseaid, y rhai a drochasant eu dwylaw yn ngwaed ein Harglwydd Iesu Grist.” “ Të ,” atebai Lindale, " ac yr wyt ti yn un o'r Ysgrifenyddion a'r Phariseаid hyny ; canys yr wyt dan rith yn hir weddïo, i lwyr fwyta tai gwragedd gweddwon.” Ond derbyniodd yn ateb,--pe na buasai ef, ( Dr. Lindale,) yn derbyn mwy wrth bregethu a gweddïo nag yr oedd ef, Bunyan, yn ei dderbyn, na buasai mor gyfoethog ag oedd. Cafodd Bunyan rybudd o'r bwriad i'w ddal ef, a gallasai ddianc ; ac ar ol ei ddwyn ger bron yr ynad, gallasai gael ei ryddhau ar yr ammod o beidio pregethu, a glynu wrth ei alwedigaeth. Ond nid oedd ei gydwybod yn caniatâu iddo wneuthur y fath ymrwymiad. Bwriwyd ef mewn canlyniad i garchar, ac wedi iddo fod yn gorwedd yno bedwar neu bum ' niwrnod, rhai o'i gyfeillion a gynhygiasant fachnïaeth dros ei ymddangosiad yn yr eisteddfod ddyfodol, ond gwrthododd yr ynad dderbyn y cais.

Yn mhen saith wythnos ar ol ei ddal, rhoddwyd ef ar brawf yn mrawdlys y sir, o flaen y barnwr Keeling. Y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn oedd fel y canlyn : - “ Fod John Bunyan, gweithiwr 0o dref Bedford, mewn modd dieflig a dinystriol, wedi ymogelyd rhag dyfod i'r Eglwys i wrando gwasanaeth dwyfol, a'i fod yn gynhelydd cyffredin cyfarfodydd annghyfreithlon, er dirfawr derfysg a chythrwfl i ddeiliaid ffyddlon y deyrnas hon, yn groes i gyfreithiau ein goruchaf Arglwydd Frenin,” & c. Ar ol darllen y cyhuddiad, gwnaeth y barnwr amddiffyniad gwresog i'r Llyfr Gweddi Cyffredin ," gan hòni, “ y gwyddai ei fod wedi bod mewn ymarferiad er amser yr Apostolion !” Hdnai Bunyan ar yr ochr arall fod yn rhaid i weddi fod yn arllwysiad y galon, ac xii