Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/39

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fawr oherwydd y creulonderau a gyflawnodd y breninwyr ar drigolion Leicester. Gorchfygwyd y fyddin freninol yn llwyr, a gorfu i gynifer o'i blaenoriaid ag a ddiangodd rhag cael eu lladd, ffoi mewn amryw ffyrdd. Cafodd Charles noddfa yn Boscobel House, a bu yn ymguddio, meddir, mewn derwen, wedi ymrithio fel coedwr. Byddai hanes ei helyntion yn ddigon i lenwi cyfrol, oblegyd addawodd y senedd fil o bunau am ei ddal. O'r diwedd cyrhaeddodd Brighton, oedd y pryd hwnw yn dref fochan o bysgodwyr, ac a lwyddodd i ddianc mewn llong fechan i Ffrainc. Hwyliodd y llestr o Shoreham, ac wedi iddi nosi, gwnaeth yn union am Ffrainc, yna dychwelodd i Poole, heb i neb ddarganfod iddi fod allan o'i chyfeiriad. Cafwyd hyd i lythyr yn ddiweddar yn mhlith cof-ysgrifau y Crynwyr yn Devonshire House, yr hwn sydd yn dangos y cynorthwy neillduol a dderbyniodd Charles ar yr achlysur hwn, oddiwrth is-lywydd y llong, Richard Carver, yr hwn oedd yn un o'r Crynwyr. Cymerai y brenin arno fod yn farsiandwr methiedig, yn ffoi rhag y ceisbwliaid. Ond y crynwr a'i hadnabu, a wnaeth hyny yn hysbys iddo, rhoddodd ddeall iddo yr un pryd fod ei fywyd yn berffaith ddyogel. Cadwodd y dwylaw mewn anwybodaeth hollol o urddas y tramwywr, a phan gyraeddasant Ffrainc, gerllaw Fecamps, rhwyfodd ef tua'r lan, a chan fod y dwfr yn fas, cludodd ef y gweddill o'r ffordd ar ei ysgwydklau, nes cyraedd tir sych. Yr oedd amryw flynyddau wedi treiglo heibio er hyn, pan ddeallodd Curver, ar ei ddychweliad o India'r Gorllewin, fod lluaws o'i frodyr-y Crynwyr, yn y carcliar er mwyn cydwybod. Deisyfodd Whitehead a Moore, prif arweinwyr y Crynwyr, ei gydymdeimlad a'i gynorthwy ef dan yr am- gylchiadau poenus hyn. Cydsyniodd yn ebrwydd, ac aeth gyda hwynt at y bronin. Cofiodd Charles of ar unwaith, a gofynodd paham na dlaethai yn gynt i ymofyn am ei wobr. Atebodd yntau, ei fod wedi ei wobrwyo yn y boddhad o fod wedi achub bywyd "Ac yn awr, Syr," meddai, "ni ofynaf ddim i mi fy hun, ond y mae genyf gyfeillion tylodion yn y carchar, a'm dymuniad ydyw ar i chwi eu rhyddhau, fel y gwnes i i chwi." Cynhygiodd y brenin ryddhau unrhyw chwech a ddymunai "Beth," atchai Carver, "chwech o Grynwyr tylodion yn bridwerth brenin!!" Boddiwyd ei Fawrhydi mor fawr gan yr atebiad hwn, fel y gwahoddodd hwynt i ddod ato drachefn.

Yr oedd y Crynwyr yn dyoddef annghysuron mawrion yn y carcharau, o dan effeithiau pa rai y trengodd lluawa o honynt. Parhawyd i ddwyn yn mlaen y cais am ryddhad y gweddill gydag aidd ac egni, nes o'r diwedd ei goroni à llwyddiant. Parch da i goffadwriaeth y morwr dewr ac ar- dderchog I ac yn fwy felly am fod ei wasanaeth dyngarol wedi ei gelu yn ofalus yn holl hanesion yr amgylchiadau hyn. Pe buasai yn Jesuit terfysglyd, tebyg i Huddlestone, buasai y weithred odidog wedi ei chyhoeddi ar led y byd, er caumoliaeth dynion yn mhob oes,

Rhyddhawyd pedwar cant ac unarddeg a thriugain, a thrwy ganiatâd breninol, ugain o anibynwyr a bedyddwyr gyda hwynt, ac yn mhlith y rhai hyn, trwy yr un weithred faddeuol, yr oedd John Bunyan.

Ceir ei ddeiseb yn nghof-nodau y cyfring-gyngor, Mai 8fed, 1672, ac ar y 17eg o'r un mis, cofrestrir tyateb Sirydd swydd Bedford, nad oedd wedi ei garcharu am un achos ond annghydffurfiaeth. Ar hyn, rhoddwyd gorchymyn ar fod i'w enw gael ei ddodi yn y weithred faddeuol, yr hon a fu rai misoedd cyn pasio y gwahanol swyddogaethau, ac yn y diwedd a ddadleuwyd yn Mrawdlys y Sir.

Ceir hysbysiad yn nghof-lyfr dinas Leicester, sydd yn dangos i Bunyan fod yno yn hawlio rhyddid i bregethu rai misoedd cyn ei ryddhad :-"Y mae trwydded John Bunyan, wedi ei dyddio Mai 15fed, 1672, i ddysgu fel cynulleidfawr, gan ei fod o'r gred hòno, yn nhŷ Josiah Roughead, Bedford, neu yn unrhyw le, ystafell, neu dŷ arall, wedi ei drwyddedu gan gofiadur ei Fawrhydi. Dangosodd y dywededig Bunyan ei drwydded i Mr. Maer, yn mhresenoldeb Mr. Overinge, Mr. Freeman, a Mr. Browne, Hydref 6ed, 1672."