Yr wyf yn dwyn bendithion I bawb yn ddiwahan, Agorwch chwithau'r drysau, A dof i mewn â chân. A gyda mi yn dyfod Mae cwmni bychan tlws, Sef deuddeng mis y flwyddyn— Agorwch chwithau'r drws.
Y Misoedd:
Daw mis Ionawr yn ei wyn, Mis yr eira ar y bryn. [Bwrw eira. Darnau mân o bapur gwyn.] Daw mis Chwefror ar ei ôl, Ewch â'r arad maes i'r ddôl. [Aredig y tir.] Yna Mawrth a ddaw'n ei wae, Rhaid rhoi'r oged ar y cae. [Llyfnu'r tir.] Yna Ebrill ddaw â'i ddail, Haul a chawod ar yn ail. [Agor glawlen.]