ac allan pan fyddaf innau i mewn, yn ôl fel bo'r tywydd.
Siân: Cosb greulon ofnadwy yw, ac yr ydym wedi blino'n lân arni.
Un o'r Tylwyth Teg (yn gwenu): O'r ddau fach annwyl!
Siân: Y mae'n galed ofnadwy. Nid ydym wedi gweld y naill y llall am ddeng mlynedd.
Un o'r Tylwyth Teg (yn taflu'r clogyn i ffwrdd: Siôn a Siân yn edrych arni gyda syndod): Un o'r Tylwyth Teg ydwyf innau. Fy neges yma heddiw ydyw eich gollwng yn rhydd. Pan darawo'r cloc ddeuddeg chwi fyddwch yn rhydd.
Siôn a Siân: Yn rhydd! yn rhydd!
Un o'r Tylwyth Teg: Ie, ond ar un amod.
Siôn a Siân: O! 'n wir, beth yw?
Un o'r Tylwyth Teg: Os byddwch byw am awr o amser heb yr un gair croes, chwi gewch aros yn rhydd am byth; ond os ffraewch-wel, "un, dau, tri-ac yn ol â chwi."
Siôn a Siân: Ffraeo'n wir-byth mwy.
Un o'r Tylwyth Teg: Mi gawn weld. (Y cloc yn taro deuddeg.) Deuddeg o'r gloch. (Yn chwifio'i gwialen hud.) Siôn a Siân, mae'ch cosb ar ben. Deuwch yn rhydd unwaith eto. Ffarwel! Ond