cofiwch-dim un gair croes. (Yn mynd allan. Siôn a Siân yn rhedeg i gofleidio a chusanu ei gilydd.)
Siân: O! Siôn bach annwyl, dyma ryddid. Byddwn yn hapus am byth yn awr.
Siôn: Byddwn, 'rwy'n siwr.
Siân (tan wenu): Siôn bach, mae'r hen het naill ochr eto.
Siôn: Pa bwys am hynny 'nawr?
Siân: Mae chwant dysglaid (cwpanaid) o dê arnaf. Beth pe byddem yn ei chael yn y fan hon?
Siôn: Ie'n wir. Rhaid i mi eich helpu.
[Yn symud y ford i'r canol, ac yn cario allan y llestri a'r bwyd-Siân yn torri'r bara menyn.]
Siân: Dyna hyfryd fydd cael pryd bach unwaith eto gyda'n gilydd.
Siôn: Ie'n wir. Nid wy'n meddwl i mi fwynhau yr un pryd yn ystod y deng mlynedd diwethaf gymaint â hwn.
Siân: Na minnau, 'chwaith. Wel, 'nawr, dyma bopeth yn barod.
[Yn eistedd i lawr ac yn arllwys y tê—y ddau'n bwyta.]