Tan yr Enfys.
CYMERIADAU: Aylwin, Dilys, Pwca, Herald, Y Tylwyth Teg, a'u Brenhines.
GOLYGFA: Cornel cae yn ymyl nant, coed tu cefn.
Aylwin: Nid ydym ymhell iawn o un pen iddo. Dacw fferm Nantygloch, a dyma ni yn ymyl afon Llan. 'Rwy i'n siwr mai rhywle o'r fan yma y cychwynnodd, ond gwell pe buasem wedi mynd tua'r pen arall i Gwmrhydyceirw. Pam yr oeddych chwi mor benderfynol o ddod tua'r pen hwn?
Dilys: Wel, mi ddweda. Y mae yna ormod o dai a phobl yng Nghwmrhydyceirw heddiw. Y mae'r ceirw wedi'u lladd er's canrifoedd bellach, ac nid oes yr un o'r tylwyth teg i'w gweld yno er's llawer blwyddyn.
Aylwin: Nid dod i weld y Tylwyth Teg a wnaethom, ond dod i chwilio am ddechrau'r enfys.
Dilys: Ond y Tylwyth Teg sy'n paentio'r enfys, ac os ydynt i'w gweld yn unman, yn agos i Nantygloch y gwelir hwynt. Arferai'r hen bobl glywed clychau'r Tylwyth Teg yn sŵn y gwynt ar noson