Tudalen:Tan yr Enfys.djvu/84

Gwirwyd y dudalen hon

Aylwin: Wel, wel, dyna ddyn bach rhyfedd, onite?

Dilys: 'Rwy'n siwr mai Pwca yw—gwas bach y Frenhines Titania. Imp bach yw yn llawn drygioni. Ef dynnodd y stol o dan forwyn y plâs pan oedd ar eistedd. Dwed rhai ei fod yn suro'r llaeth, ac eraill ei fod wedi gwneud llawer o bâr o esgidiau i John y Crydd pan oedd pawb yn cysgu. Pwca yw, 'rwy'n siwr.

[Pwca yn dyfod yn ol â phedair deilen.]

Pwca: Yn awr, gadewch imi osod y perlau ar eich llygaid, ac fe gewch weld. (Yn gosod deilen ar bob llygad.) Edrychwch! (Yn arwyddo'r bwa.)

Dilys (mewn syndod): O 'r fath liwiau hardd!

Aylwin: Onid yw yn bert?

Pwca: Y mae'r lleuad yn llawn heno, ac efallai y cewch weld rhai o'r Tylwyth Teg a fu'n paentio'r enfys.

Dilys: O, mi garwn yn fawr.

[Pwca yn cydio mewn corsen, ac yn canu miwsig swynol. Saith (neu 14) o'r Tylwyth Teg yn dawnsio i mewn wedi'u gwisgo yn lliwiau'r enfys: 1, Coch; 2, Oraens; 3, Melyn; 4, Gwyrdd; 5, Glas; 6, Indigo; 7, Fioled. Aylwin a Dilys yn sefyll yn ymyl y llwyfan;