Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/12

Gwirwyd y dudalen hon

ynof," hefyd yr wyf yn meddwl yn ddiysgog fy mod i a Mr. Pierce yn debyg i Dafydd a Jonathan, yn caru y naill y llall yn ddirngrith, ac y gallwn ymddiriad ein holl gyfrinach i'n gilydd, heb ddim perygl y gwna y naill fradychu y Hall mewn geiriau na gweithredoedd. Nid pawb a geir felly yn y dyddiau hyn, osywacth. Cefais hefyd lawer o gyfeillach a'r Parch. William Rees, (Gwilym Hiraethog), ai deulu; y Parchedig Mr. Thomas, Birkenhead, Parchedig Mr. Thomas, Tabarnacl; ac hefyd lawer o bleser a hyfrydwch yn nghymdeithas Mr. Joseph Thomas, (Josephus Eryri,) y Meddyg Mesmeryddol campus, sydd yn preswylio yn No. 2, Seymour Street, London Road; a chan faint ei ddealldwriaeth a'i gywreinrwydd i iachau anhwylderau corphorol, a meddyliol dynion yn gyffredinol, cyfansoddais yr englynion canlynol iddo, a llyma hwynt i bawb a ewyllysio eu gweled a'u darllen:—

"Chwi ffrostus ddigus feddygon—gwaelaidd,
Sy'n gwilio rhai cleifion,
Dyneswch, brysiwch, ger bron,
Am unwaith yn wyr mwyn.

Minau a nodaf iwch' mewn mynydyn
Feddyg rhagorach a ddylach ddilyn,
Cu ŵr deallus, cywir a dillyn—
Gweithia ef iawnder er gwaethaf undyn,
Iachâu anhwylderau dyn,—ni fethau,
Tra dewr cyweiria o'r traed i'r coryn.

Treiddiawl brif ddoctor addas,—dieisiawr
Ydyw Ioseph Thomas,
A'i gamp a 'hed o gwmpas,
Nid ofna bwll dwfn na bas.

Bernwch yn deg heb wyrni,—oes hoffach
Iosephus Eryri;
Pwy yn awr, drwy'n pauau ni,
Ar y gwr wna ragori?

Un ydyw wyr yn odiaeth,—hoff ethawl
Effeithiau mesmeriaeth.