Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/14

Gwirwyd y dudalen hon

Chwal anhwylder gwywder gau
Sy'n aros ar synwyrau.

Ffyniant i Ioseph anwyl,—ymloned
Aed yn mlaen a'i orchwyl;
Am iechyd a hyfryd hwyl,"
Brysiwch yn llu i'w breswyl.

Mr. Richard Parry, Islington, hefyd, a gefais yn gyfaill caredig dros ben; ac wrth ganfod cymaint o'i garedigrwydd a'i haelioni, gwnaethym yr enuglyn canlynol iddo:

Gwr mwynaidd. puraidd yw Parri—cyfaill
Gwneir cofio'i haelioni;
Mae'n awr bum mil am wn i,
Soniant am ei 'luseni.

Mr. Thomas Owen a fu yn arweinydd a chyfaill caredig i mi, a dywedais fel y canlyn am dano:—

Y sywiol Thomas Owen—a gefais
Yn gyfaill diabsen,
Haeddai glod a bod yn ben
Llywyddwr lle'r pwll addien.

Cefais hefyd Mr. J. Lloyd, yr Argraffydd, a'i deulu, yn gyfeillion caredig a chroesawgar; ond gwell i mi ymattal bellach, o herwydd fod yn Llyulleifiad lawer o ugeiniau o gyfeillion parchus a ddangosasant eu caredigrwydd a'u hewyllys da i mi tra bum yn aros yn eu mysg. Pe bawn yn eu henwi o un i un, chwyddai fy ysgrifi gryn gyfrol o faintioli. Ond i fod yn fyr, ar ol i mi ddyfod yn gydnabyddus ag amryw gyfeillion caredig yn y dref, aethym i weled rhai o'r rhyfeddodau mawrion a ganfyddir mewn amrywiol fanau yno a'r cwmpasoedd; sef y llongau mawrion a bychain oeddynt yn angori ar afon Mersey, ac ereill yn y dociau—tybiwyf fod yno filoedd o honynt o bob maintioli, yn ddigon a pheri i ddyn dyeithr fel fi feddwl fod holl longau y byd wedi cael eu crynhoi yn nghyd at eu gilydd—eu bod yn un o brif ryfeddodau y greadigaeth fawr. Wedi i mi dremio ar y llongau am gryn yspaid o amser, aethym i edrych y Gasworks, a'r ermygau llifio, a'r Waterworks, a gweithfa y deillion o'r ddau ryw, sef bechgyn a genethod