Gwrol, nerthol, ddi nych,—fy helynt, |
Pan gyrhaeddais Rhyl, aethym i letya i'r Dudley Arms Family and Commercial Hotel, opposite the entrance to the Railway Station. Cefais le cysurus a heddychlon dros ben yno. Ac yn yr yspaid y bum yn aros yn Rhyl, cefais hamdden i alw gyda rhai gwyr enwog a pharchus sydd yn preswylio yn y dref brydferth hono, sef y Parch. Aaron Francis (Aaron Mochnant), a Iorwerth Glan Aled, a fy nghydwladwr Mr. John Reinallt. yr adeiladydd campus. Darfu y tri wyr hyn, yn nghydag ereill, ddangos llawer o'u caredigrwydd a'u hewyllys da i mi at fy hyrwyddo i werthu'r Diliau, yn enwedig yr olaf o'r tri a enwyd. Tra bum yn aros yno, byddwn yn hoffi myned yn lled fynych i rodio glân y mor; ac ar ryw ddiwrnod nodedig pan ydoedd yn orllanw, gwelwn dorfeydd o foneddion, yn feibion a merched, yn cerdded yn araf at y cabanod prydferth oedd yno wedi eu gosod yn bwrpasol iddynt, i ddiosg a gwisgo eu dillad pan fyddont yn myned i ymdrochi yn y môr. Hynod mor fon-